Psalms 38

Gweddi un sy'n dioddef

Salm Dafydd. I'th atgoffa.

1O Arglwydd, paid bod yn ddig a'm cosbi i,
a dweud y drefn yn dy wylltineb.
2Mae dy saethau wedi fy anafu;
mae dy law wedi fy nharo i.
3Dw i'n sâl yn gorfforol o achos dy ddigofaint di!
Does dim iechyd yn fy esgyrn am fy mod wedi pechu.
4Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i;
mae fel baich sy'n rhy drwm i'w gario.
5Mae'r briwiau ar fy nghorff wedi casglu a dechrau drewi;
a'r cwbl am fy mod i wedi bod mor dwp.
6Dw i wedi crymu. Mae gen i gywilydd ohona i'n hun.
Dw i'n cerdded o gwmpas yn isel fy ysbryd drwy'r dydd.
7Mae fy ochrau'n boenus i gyd;
dw i'n teimlo'n sâl trwyddo i.
8Mae rhyw boen mud yn fy llethu'n llwyr.
Dw i'n griddfan mewn gwewyr meddwl.
9O Arglwydd, ti'n gwybod yn iawn be dw i eisiau!
Rwyt ti wedi clywed fi'n griddfan.
10Mae fy nghalon i'n curo'n gyflym;
does gen i ddim nerth, a dw i'n colli fy ngolwg.
11Mae fy ffrindiau a'm teulu yn cadw draw oddi wrtho i;
a'm cymdogion yn sefyll yn bell i ffwrdd.
12Mae'r rhai sydd am fy lladd i yn gosod trap i mi,
a'r rhai sydd am wneud niwed i mi yn siarad y faleisus
ac yn dweud pethau twyllodrus drwy'r adeg.
13Ond dw i'n ymateb fel tawn i'n fyddar – yn gwrthod gwrando.
Dw i'n ymddwyn fel rhywun sy'n fud – yn dweud dim.
14Dw i'n clywed dim,
a dw i ddim am ddadlau gyda nhw.
15Ond Arglwydd, dw i'n disgwyl amdanat ti;
byddi di'n eu hateb nhw, fy meistr a'm Duw.
16Dw i'n gweddïo, “Paid rhoi'r pleser iddyn nhw o gael eu ffordd!”
Roedden nhw mor falch, ac yn gwawdio pan wnes i lithro!
17Dw i'n darfod amdana i!
Dw i mewn poen ofnadwy drwy'r adeg.
18Dw i'n cyfaddef mod i wedi gwneud drwg.
Dw i'n poeni am fy mhechod.
19Ond mae gen i gymaint o elynion heb achos!
Cymaint o rai sy'n fy nghasáu i am ddim rheswm!
20Pobl sy'n talu drwg am dda,
ac yn tynnu'n groes am i mi geisio gwneud beth sy'n iawn.
21Paid gadael fi, Arglwydd!
O Dduw, paid ti cadw draw!
22Brysia! Helpa fi,
O Arglwydd, fy achubwr!
Copyright information for CYM